Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 mins)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau storm Emma ar Gaergybi?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (i’w ateb gan y Gweinidog Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon):
Lee Waters (Llanelli): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith rhoi'r gorau i ddarlledu rygbi rhanbarthol am ddim o dymor nesaf ymlaen?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi?
(5 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6665
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Adroddiad y Swyddfa Gartref - The Corston Report (Saesneg yn unig)
Women in Prison - The Corston Report 10 Years On (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr
(60 munud)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru’ a gasglodd 6,398 o lofnodion.
(60 munud)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2018.
2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r adroddiad, sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Saesneg yn unig)
(30 munud)
Cartrefi diogel - teuluoedd sefydlog
Pam mae angen diddymu adran 21 i roi mwy o sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Mawrth
2018